Icon of a House.  Click here to go to the Home Page. Cartref
Lloches Nos
Cynllun Bond
Gweithwyr Cefnogi
Gwnewch Rodd
Gwybodaeth i Landlordiaid
 

Gwydodaeth i Landlordiaid

Ydych chi'n landlord?  Allech chi ein cynorthwyo ni i sichrau bod pobl yn cael dechrau o'r newydd mewn cartref boddhaol.

Cynllun gwarantu blaendal yng Ngheredigion yw'r Cynllun Bondiau ac rydym yn anelu at gynorthwyo pobl leol i ddod o hyd i gartref boddhaol, fforddiadwy.

Gall y Cynllun Bondiau gynnig y canlynol i landlordiaid, yn rhad ac am ddim:-

  • Bond nad yw'n arian parod
  • Help i landlordiaid a thenantiaid wrth gwblhau ffurflenni Budd-dâl Tai ac ymholiadau cyson.
  • Cwblhau infentori i'r llety.
  • Cyngor cyffredinol ar faterion a allai effeithio arnoch chi fel landlord
  • Cymorth parhaus ar gyfer y tenant a'r landlord.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â'r Rheolwr Lletya: Manylion Cyswllt.

neu ebost: bondscheme@
ceredigioncaresociety.org.uk

 

Cynllun Bondiau

Ydych chi:

  • Yn byw mewn llety gwael neu lety eilradd?
  • Yn chwilio am gymorth neu gyngor ar unrhyw fater sy'n ymwneud â thai?
  • Yn awyddus i gael Bond/Blaendal er mwyn gallu cadw llety?
  • Yn landlord?

Os felly, cysylltwch â Chymdeithas Gofal Ceredigion a siarad â'r Gweithiwr Bondiau a fydd yn gallu egluro mwy am y Cynllun Gwarantu Bondiau a sut allwn ni eich cynorthwyo.

Gair am y cynllun

Sefydlwyd y cynllun bondiau ym mis Ebrill 1999 ac mae'n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru'n bennaf.  Mae'r Cynllun yn gweithredu drwy Geredigion oll ac yn cynnig help a chefnogaeth i bobl leol i ffeindio a sicrhau llety addas, fforddadwy yn y sector preifat.

Sut allwn ni eich cynorthwyo chi?

Fe helpith Cynllun y Bond pobl i archwilio gwahanol opsiynau cartrefu gyga golwg ar sicrhau llety. Fe gynigiwn ni gyngor ar amryw faterion perthnasol i denantiaid. Gallwn ni roi gwarant bond (nid arian parod) i'r rhai sy'n cwrdd â'n meini prawf ni ac efallai helpu cleientiaid i gael blaen-dâl rhent.  Fe allwn gyflafareddu rhwng landlord a thenant, os gofynnir i ni wneud.

Mae gen i ddiddordeb, beth yw'r cam nesaf?

Os ydych yn teimlo y gallai'r Cynllun Bondiau eich cynorthwyo, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, yna cysylltwch â swyddfa Aberystwyth neu Aberteifi a threfnu apwyntiad â'r Gweithiwr Bondiau.  Bydd hwnnw'n gallu egluro sut fydd y Cynllun o gymorth i chi.

Pryd alla i weld Gweithiwr Bondiau?

Mae apwyntiadau ar gael yn ystod y dydd (9am - 4pm), dydd Llun i ddydd Gwener.  Mae'r Cynllun Bondiau ar gael drwy Geredigion ac mae'n cael ei weithredu o swyddfeydd Cymdeithas Gofal Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi.

 

Site Design © Gemma Jones 2005. All textual content and the Ceredigion Care Society logo are © Ceredigion Care Society 1971-2005.