Mae Cymdeithas Gofal Ceredigion yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â digartrefedd yng Ngheredigion a Chymru. Rydym yn credu mai gwell dealltwriaeth o’r rhesymau y mae pobl yn dod yn ddigartref a sut mae’n effeithio ar eu bywydau, yn ogystal â helpu pobl i ennill sgiliau a phrofiad gwaith gwerthfawr, yw’r ffordd orau i atal digartrefedd.

Rydym yn bwriadu gwneud hyn trwy:

· Cyflwyno Rhaglen Ymwybyddiaeth Addysgol i ysgolion, colegau a sefydliadau eraill
· Cynnig rhaglenni hyfforddi â thystysgrif wedi’u hanelu at gynyddu hyder a sgiliau ym mhob maes fel Cyflogadwyedd, Sgiliau Bywyd Personol, a Sgiliau Bywyd a Byw
· Rhoi cyfleoedd ar gyfer Lleoliadau Gwaith a all alluogi pobl ifanc i ennill yr hyder, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i symud i gyflogaeth barhaol.

 

Cliciwch ar y dolenni ar y chwith am fwy o wybodaeth am ein Rhaglenni Addysg a Hyfforddiant.

Neu Cysylltwch â Ni
E-bost: info@ceredigioncaresociety.org.uk
Ffôn: 01970 639111