Maen nhw wedi fy ngalluogi i ennill eiddo trydydd parti trwy’r cyngor, a dod o hyd i landlord sy’n gyfan gwbl ymwybodol o fy mhenbleth. Diolch yn fawr i chi oll a gobeithio y gwnewch chi barhau â’ch gwaith mewn rhan o gymdeithas sy’n ei haeddu’n fawr.

 

Fel llawer o elusennau, rydym yn dibynnu fwyfwy ar haelioni’r cyhoedd. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion y byddwn yn eu cael yn fawr. Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith rydym yn ei wneud, ac yr hoffech ein helpu ni, mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hynny:

Rhoddion uniongyrchol

Ar ffurf arian, amser a deunyddiau. Mae’n gyflym ac yn hawdd rhoi arian drwy GiftAid. Bydd eich rhodd yn gymwys i gael cymorth Gift Aid, a byddwn yn targedu cyllid at yr angen mwyaf. Fel arall gallwch CHI benderfynu ar gyfer pa brosiectau yr hoffech i’ch rhodd helpu.
Rydym yr un mor ddiolchgar o gael rhoddion nad ydynt yn rhai arian sy’n helpu ein cleientiaid i sefydlu a chynnal eu cartrefi. Unwaith eto gallwn dargedu lle bo’r angen mwyaf neu gallwch ein cyfeirio ato.

Digwyddiadau codi arian cymunedol

Gall codi arian fod yn hwyliog, ac yn ffordd dda i grwpiau ddod at ei gilydd at bwrpas cyffredin. Gallwn helpu gyda’r threfnu a’r hyrwyddo angenrheidiol i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant. Mae gennym ffurflenni noddi sy’n gydnaws â gofynion GiftAid, ac rydym bob amser yn fodlon trefnu cyflwyniad am ein gwaith i’ch grŵp.

Rhoi etifeddiaeth

Bydd hyn yn galluogi Cymdeithas Ofal Ceredigion i barhau i weithio â chleientiaid ar ôl eich marwolaeth. Mae’n broses syml. Os yw’r rhodd wedi’i nodi at ein ‘dibenion elusennol cyffredinol’ yna gellir defnyddio’r arian ym mhob ffordd bosibl.

Noddi corfforaethol

A yw’ch sefydliad yn awyddus i greu cysylltiadau ag elusen leol? A all eich busnes ein defnyddio fel cyfle noddi? Byddem yn hynod falch o glywed gennych.

Ymddiriedolaeth elusennol a grantiau

Os ydych yn ymddiriedolwr neu’n weithredwr ymddiriedolaeth elusennol â’r un cylch gwaith â ni, byddem yn hynod falch o glywed gennych.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch codi arian neu awgrymiadau, cysylltwch â ni.