Roeddwn yn hynod o ddiolchgar am ansawdd rhagorol y cymorth proffesiynol a roddwyd i mi o dan amgylchiadau personol eithriadol o anodd

Cymdeithas Gofal Ceredigion

Pwy Ydym Ni?

Mae Cymdeithas Gofal Ceredigion yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant sydd wedi bod yn cynnig cymorth, help a chyngor i’r rheiny sy’n ddigartref, dan fygythiad digartrefedd, neu sydd angen cymorth i ddod o hyd i dai fforddiadwy yng Ngheredigion a’i siroedd cyfagos am 40 mlynedd (1971 tan 2011).

Ein Gweledigaeth

Hybu cymhwysiad cymdeithasol er budd y cyhoedd trwy atal pobl rhag cael eu hallgáu yn gymdeithasol oherwydd digartrefedd, mewn perygl o golli eu cartref, byw mewn llety digonol neu amgylchiadau ansicr yng Ngheredigion a’r siroedd cyfagos.

Ein Cenhadaeth

‘Darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, sy’n: gweithio mewn modd hyblyg, arloesol, dychmygol ac ymatebol; adnabod a darparu dewisiadau tai addas; cynorthwyo pobl i gyrraedd eu llawn botensial.’

Ein Gwasanaethau

Rydym wedi ffurfio ein gwasanaethau i weddu anghenion y bobl rydym yn gweithio â nhw, a’r problemau parhaus maen nhw’n eu hwynebu. Mae bod yn sefydliad dan arweiniad cleientiaid wedi’n galluogi ni i adnabod bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau ac ymateb trwy ddarparu atebion arloesol ac effeithiol sydd o fudd i’n cleientiaid a’r gymuned lle rydym yn byw.

Yn gweithio o swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberteifi, mae ein tîm pwrpasol o Ymddiriedolwyr a Staff yn gyfan gwbl ymrwymedig i gyflawni ein hamcanion fel elusen. Rydym yn gweithio’n galed i wneud tai sefydlog o ansawdd da yn fwy fforddiadwy, yn hygyrch ac yn gynaliadwy i aelodau mwyaf agored i niwed ac eithriedig ein cymuned.