Roedd y profiad cyfan yn wych o’r dechrau i’r diwedd. Ni allaf feddwl am unrhyw air drwg i ddweud am ddim ohono. Gwnaethoch chi fy achub i ac rwy’n ei werthfawrogi o waelod fy nghalon.

 

Rydym yn gwybod ei bod hi’n anodd sicrhau tai o ansawdd yn y sector rhentu preifat am bris teg. Rydym hefyd yn gwybod nad arian yw’r unig rwystr i dai llwyddiannus. Nod y Cynllun Rhentu Preifat (PRS) yw helpu pobl i dai sector preifat addas a chynaliadwy, mewn  ardal o’u dewis nhw.

Bodloni angen ariannol

Gall cleientiaid sydd wedi bod yn breswylwyr yng Ngheredigion ers o leiaf chwe mis, ddefnyddio’r Cynllun Bondiau i dalu cost bond eu tenantiaeth newydd. Mae’r bond ‘papur’ yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac mewn rhai amgylchiadau, yr Awdurdod Lleol, a’i reoli gan y Gymdeithas Gofal.

Ehangu cynhwysiad yn y sector rhentu preifat

Rydym yn deall anghenion cleientiaid sy’n agored i niwed, a’r anhawster o ran ennill llety yn y sector preifat. Rydym yn prydlesu a rheoli eiddo ledled Ceredigion i sicrhau bod y cleientiaid ‘sy’n anoddach i’w cartrefu’ yn gallu cael cartref gweddus, a’u bod yn cael eu deall a’u cynorthwyo i wneud eu tenantiaeth yn llwyddiant.