Icon of a House.  Click here to go to the Home Page. Cartref
Lloches Nos
Cynllun Bond
Gweithwyr Cefnogi
Gwnewch Rodd
Gwybodaeth i Landlordiaid
 

Angen rhagor o wybodaeth?

Gweler tudalen  Manylion Cyswllt neu ebostiwch y Lloches Nos.

Ffon: (01970) 623048 rhwng  7.30 pm ac 8.30 am - neu- (01970) 627462 rhwng 9.00 am ac 5.00 pm.

Lloches Nos

Lle i Bobl sy'n Cysgu Allan

Yn Aberystwyth y mae'r Lloches Dros Nos ac mae'n deparu llety brys i hyd at 5 o bobl, ar sail y cyntaf i'r felin bob nos. Gall gwesteion gael mynediad rhwng 8.00 pm a 10.00 pm bob nos; does dim croeso i giwio cyn 7.45 pm. Tra yn y lloches, cynigir gwely, cynhesrwydd, bwyd a defnydd o gyfleusterau bathrwm i westeion. Prosiect sy'n rhydd o alcohol a chyffuriau (ty sych) yw'r lloches a chaiff neb sydd dan y dylanwad ddim dod i mewn i'r lloches. Tra yno, rhaid i westeion gadw i delerau'r arhosiad yn llwyr. Rhaid i westeion ymadael a'r Lloches dros Nos erbyn 8.30 am. Bydd staff y Lloches dros Nos yn rhoi gwybodaeth i westeion am wasanaethau eraill sy ar gael y mae'n bosibl y gallan nhw eu defnyddio yn ol eu hangen. 

Pwy Gaiff Ddefnyddio'r Lloches?

Gall cleientiaid gwyrwaidd neu fenywaidd dros 16 oed gael mynediad os nad oes unrhyw lety arall y gallen nhw gael mynediad iddo. Bydd cleientiaid sy'n dianc rhag trais neu gam-drin neu sydd wedi profi tor-perthynas yn cael eu hystyried.  

Beth Ddylwn i Ddisgwyl yn y Lloches?

Mae staff o ddau yn gofalu am y lloches bob amser, ac mae system ar-alw ychwanegol yn ei lle. Mae'r lloches yn gweithredu yn ol amodau cadarn y mae rhaid i westeion gadw atyn nhw. Os bydd gwesteion yn anwybeddu telerau fe ofynnir iddyn nhw ymadael ac fe allen eu gwahardd rhag defnyddio'r prosiect wedyn. Lloches sych yw hwn, h.y. chaiff neb sydd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau fynediad. Disgwylir i westeion ddangos parch i'r staff, gwesteion eraill, cymdogion o breswylwyr, ac eiddo. Ar hyn o bryd mae 5 lle gwely ar ffurf dwy ystafell wely, dau twin ac un sengl. Rydyn ni wrthi yn addasu'r lloches er mwyn darparu 5 lle gwely ar wahan. Bydd gwesteion yn cael bwyd, dillad gwely glan a mynediad i gyfleusterau bathrwm.  

Dangos y Ffordd

Bydd staff yn rhoi gwybodaeth a llenyddiaeth hyrwyddo am wasanaethau eraill sy ar gael drwy'r sir i westeion, a threfnu gwneud apwyntiadau ar gais. 

Fel Asiantaeth a Allwn ni Gyfeirio Cleientiaid?

GALLWN! Mae'r Lloches dros Nos yn gweithio gyda sawl asianteath leol. Mae gan rai drefniadau cyfeirio eisoes yn eu lle. Os oes gyda chi gleient sy ag angen defnyddio'r cyfleustra ac os oes modd cysylltu a ni cyn ein defnyddio ni, byddwch gystal a gwneud hynny. Mewn rhai achosion fe all y bydd modd i ni flaenori eich cleient. Os yw'ch sefydliad chi am wybod rhagor neu sefydlu trefniadau cyfeirio, cysylltwch a Rheolwr y Lloches dro Nos. Ewch i'n tudalen Manylion Cyswllt am fanylion. 

Rhoddion

Mae Cymdeithas Gofal Ceredigion yn gwerthfawrogi'n fawr ei bod wedi derbyn llawer iawn o gymorth gan unigolion, sefydliadau a busnesau . Yn y gorfennol rydyn ni wedi derbyn rhoddion mewn arian, pethau toiled, dillad, dillad gwely a nwyddausy'n-para. Os carech chi wneud rhodd, gwaith gwirfoddol neu gynnig eich enw fel ymddiriedolwr ac am wybod rhagor, fe fydden ni'n falch iawn o glywed gyda chi. cysylltwch a Rheolwr y Lloches dro Nos. Ewch i'n tudalen Manylion Cyswllt am fanylion.  

 

Site Design © Gemma Jones 2005. All textual content and the Ceredigion Care Society logo are © Ceredigion Care Society 1971-2005.