Icon of a House.  Click here to go to the Home Page. Cartref
Lloches Nos
Cynllun Bond
Gweithwyr Cefnogi
Gwnewch Rodd
Gwybodaeth i Landlordiaid
 

A oes angen cymorth arnoch â'r canlynol:

  • Materion yn ymwneud â thenantiaeth
  • Budd-daliadau Lles/Tai
  • Rheoli arian/dyled
  • Sgiliau bywyd
  • Anghenion cymdeithasol
  • Dewisiaddau o ran tai yn y dyfodol

neu a oes angen cymorth arnoch â phroblemau neu anawsterau eraill?

Os felly, cysylltwch â Chymdeithas Gofal Ceredigion a siarad â'r  Cydlynydd Cymorth a fydd yn gallu egluro mwy am y Cynllun Cymorth Hyblyg a sut allwn ni eich cynorthwyo.

Os ydych am gysylltu ag unrhywun arall yng Nghymdeithas Gofal Ceredigion, gweler ein tudalen Manylion Cyswllt.

 

Cynllun Cymorth Hyblyg

Gair am y Cynllun

Mae'r Cynllun Cymorth Hyblyg yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n cynnig eiriolaeth a chymorth i gleientiaid er mwyn iddynt fynd i'r afael ag unrhyw faterion, problemau neu bryderon sydd ganddynt ac er mwyn eu cynorthwyo i gynnal tenantiaethau.  Bydd Gweithwyr Cymorth yn annog cleientiaid i fyw'n annibynnol, dod yn rhan o'r gymuned a chyflawni eu potensial, gan wella ansawdd eu bywyd yn sgîl hynny.

Sut allwn ni eich cynorthwyo?

Byddwch chi a Gweithiwr Cymorth yn llunio Cynllun Cymorth a fydd yn mynd i'r afael â'ch holl anghenion cymorth.  Yna, byddwch eich dau yn gweithio dros gyfnod o amser ac yn cytuno ar y camau i'w cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn er mwyn cael canlyniadau cadarnhaol.  Bydd cydweithio â sefydliadau eraill yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu.  Mae'r materion y gellir ymdrin â nhw'n cynnwys:

  • Materion yn ymwneud â thenantiaeth.
  • Budd-daliadau Lles/Tai 
  • Rheoli arian/dyled.
  • Sgiliau bywyd.
  • Iechyd a Glanweithdra.
  • Dibyniaeth ar gyffuriau.
  • Hyfforddiant ac addysg.
  • Cyfleoedd gwaith.
  • Anghenion cymdeithasol.
  • Dewisiadau o ran tai yn y dyfodol.

Bydd eich Cynllun Cymorth yn cael ei adolygu'n rheolaidd a'i addasu yn ôl yr angen.

Pethau na allwn gynnig cymorth â nhw

Ni fydd Gweithiwr Cymorth yn cyflawni dyletswyddau nyrsio nac yn cynnig gwasanaeth cynghori ffurfiol.  Serch hynny, os nad yw'r Gweithiwr Cymorth yn gallu eich cynorthwyo ag unrhyw faterion neu broblemau sydd gennych, bydd yn eich cyfeirio at sefydliad priodol a fydd yn gallu cynnig cymorth.

Sut Allaf i Ddechrau Cael Help?

Os ydych chi am wybod rhagor cysylltwch a'n Cydlynydd Cymorth neu ymwelwch a'n tudalen Manylion Cyswllt.